Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 27 Mawrth 2012

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(56)v4

 

<AI1>

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) 

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. 

Gweld y cwestiynau
 

</AI1>

<AI2>

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) 

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI2>

<AI3>

3. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Ymgynghoriad ar awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru (30 munud)

</AI3>

<AI4>

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd: Strategaeth Pysgodfeydd Cymru (30 munud) 

Dogfen Ategol:
Strategaeth Pysgodfeydd Cymru 2008  

(Saesneg yn unig)

 

</AI4>

<AI5>

5. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwasanaethau Ariannol (15 munud) 

NDM4913 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Gwasanaethau Ariannol fel y’i cyflwynwyd i Dŷ’r Cyffredin ar 26 Ionawr 2012 mewn perthynas â’r Corff Addysg Ariannol Defnyddwyr (CAAD), i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.    

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Chwefror 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Dogfennau Ategol
Bil Gwasanaethau Ariannol – Saesneg yn unig
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

</AI5>

<AI6>

6. Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Trosglwyddo Swyddogaethau, Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 2012 (15 munud) 

NDM4949 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Trosglwyddo Swyddogaethau, Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Mawrth 2012.

Dogfennau Ategol
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Trosglwyddo Swyddogaethau, Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 2012
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
 

</AI6>

<AI7>

7. Dadl: Cynllun Drafft ar Hawliau Plant i’w gymeradwyo o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 (60 munud) 

NDM4950 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 3(6) o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011:

Yn cymeradwyo’r Cynllun Hawliau Plant drafft a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 20 Mawrth 2012.

Dogfen Ategol
Cynllun Hawliau Plant

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw’r cynllun yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn adrodd i’r Cynulliad Cenedlaethol yn flynyddol ar gydymffurfio â’i dyletswydd i roi sylw dyledus i’r CCUHP.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw’r cynllun yn cynnig cyfleoedd cryfach ar gyfer herio’n briodol os ystyrir nad yw Gweinidogion Cymru wedi cydymffurfio â’u dyletswydd i roi sylw dyledus i’r CCUHP.

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw’r Cynllun yn darparu ar gyfer mecanwaith adrodd cadarnach sy’n mynnu bod Gweinidogion Cymru’n adrodd yn amlach i’r Cynulliad.

</AI7>

<AI8>

Cyfnod Pleidleisio

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 28 Mawrth 2012

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>